Maniffesto Mozilla

Cyflwyniad

Mae'r Rhyngrwyd yn dod yn rhan gynyddol bwysig o'n bywydau.

Mae project Mozilla yn gymuned fyd-eang o bobl sy'n credu bod bod yn agored, arloesedd, a chyfle yn allweddol i iechyd parhaus y Rhyngrwyd. Rydym wedi gweithio gyda'i gilydd ers 1998 i sicrhau fod y Rhyngrwyd yn cael ei ddatblygu mewn ffordd sydd o fudd i bawb. Rydym yn fwyaf adnabyddus am greu'r porwr gwe Mozilla Firefox.

Mae'r project Mozilla yn defnyddio dull sy'n seiliedig ar y gymuned i greu meddalwedd cod agored byd-eang ac i ddatblygu mathau newydd o weithgareddau cydweithredol. Rydym yn creu cymunedau o bobl sy'n gysylltiedig â gwneud profiad y Rhyngrwyd yn well i bob un ohonom.

O ganlyniad i'r ymdrechion hyn, rydym wedi distyllu set o egwyddorion y credwn eu bod yn hanfodol ar gyfer y Rhyngrwyd i barhau i gynnig budd i'r cyhoedd yn ogystal ag agweddau masnachol ar fywyd. Rydym yn gosod allan yr egwyddorion hyn isod.

Y nodau ar gyfer y Maniffesto yw i:

  1. mynegi gweledigaeth ar gyfer y rhyngrwyd y mae cyfranogwyr Mozilla am i Mozilla Foundation ei dilyn;
  2. siarad â phobl os oes ganddynt gefndir technegol neu beidio;
  3. gwneud cyfranwyr Mozilla yn falch o'r hyn rydym yn ei wneud a'n hannog ni i barhau; a
  4. darparu fframwaith i bobl eraill hybu y weledigaeth hon o'r Rhyngrwyd.

Daw'r egwyddorion hyn ddim yn fyw ar eu pen eu hunain. Mae angen i bobl wneud y rhyngrwyd yn agored ac yn gyfranogol - pobl yn gweithredu fel unigolion, yn gweithio gyda'i gilydd mewn grwpiau, ac yn arwain eraill. Mae Mozilla Foundation wedi ymrwymo i hyrwyddo'r egwyddorion sydd i'w gweld ym Maniffesto Mozilla. Rydym yn gwahodd eraill i ymuno â ni a gwneud y rhyngrwyd yn lle gwell fyth i bawb.

Egwyddorion

  1. Mae'r rhyngrwyd yn rhan annatod o fywyd modern—yn elfen allweddol mewn addysg, cyfathrebu, cydweithredu, busnes, adloniant a chymdeithas yn gyffredinol.
  2. Mae'r rhyngrwyd yn adnodd cyhoeddus byd-eang y mae'n rhaid iddo aros yn agored a hygyrch.
  3. Rhaid i'r rhyngrwyd gyfoethogi bywydau unigolion.
  4. Mae diogelwch a phreifatrwydd unigolion ar y rhyngrwyd yn fater sylfaenol ac nid oes modd eu trin fel mater dewisol.
  5. Rhaid i unigolion gael y gallu i lunio'r Rhyngrwyd a'u profiadau eu hunain ar y Rhyngrwyd.
  6. Mae effeithiolrwydd y Rhyngrwyd fel adnodd cyhoeddus yn dibynnu ar y gallu i ryngweithredu (protocolau, fformatau data, cynnwys), arloesi a chyfranogiad datganoledig ledled y byd.
  7. Mae meddalwedd cod agored, rhydd ac am ddim yn hyrwyddo datblygiad y Rhyngrwyd fel adnodd cyhoeddus.
  8. Mae prosesau tryloyw cymunedol yn hyrwyddo cyfranogiad, atebolrwydd, ac ymddiriedaeth.
  9. Mae cyfranogiad masnachol yn natblygiad y Rhyngrwyd yn dod â llawer o fuddion; mae cael cydbwysedd rhwng elw masnachol a budd cyhoeddus yn hanfodol.
  10. Mae cynyddu agweddau budd cyhoeddus y Rhyngrwyd yn nod pwysig, teilwng o'n hamser, sylw ac ymrwymiad.

Hyrwyddo Maniffesto Mozilla

Mae llawer o wahanol ffyrdd o hyrwyddo egwyddorion Maniffesto Mozilla. Rydym yn croesawu ystod eang o weithgareddau, ac yn rhagweld yr un creadigrwydd y mae cyfranogwyr Mozilla wedi eu hamlygu mewn meysydd eraill yn y project. Ar gyfer unigolion nad ydynt yn ymwneud yn fawr â phroject Mozilla, y ffordd amlwg ac effeithiol iawn i gefnogi'r Maniffesto yw drwy ddefnyddio Mozilla Firefox a chynnyrch eraill sy'n ymgorffori egwyddorion y Maniffesto.

Addewid y Mozilla Foundation

Mae Mozilla Foundation yn addo cefnogi'r Maniffesto Mozilla yn ei weithgareddau. Yn benodol, byddwn yn:

  • adeiladu a galluogi technolegau a chymunedau cod agored sy'n cefnogi egwyddorion y Maniffesto;
  • adeiladu a chyflwyno cynnyrch gwych i ddefnyddwyr sy'n cefnogi egwyddorion y Maniffesto;
  • ddefnyddio asedau Mozilla (eiddo deallusol megis hawlfraint a nodau masnach, seilwaith, cronfeydd, ac enw da) i gadw'r Rhyngrwyd yn llwyfan agored;
  • hyrwyddo modelau ar gyfer creu gwerth economaidd er budd y cyhoedd, a
  • hyrwyddo egwyddorion Maniffesto Mozilla mewn trafodaethau cyhoeddus ac o fewn diwydiant y Rhyngrwyd.

Mae rhai o weithgareddau'r Foundation - ar hyn o bryd creu, dosbarthu a hyrwyddo cynnyrch defnyddwyr - yn cael eu cynnal yn bennaf trwy is-gwmni sy'n eiddo llwyr i Mozilla Foundation, sef Mozilla Corporation.

Gwahoddiad

Mae Mozilla Foundation yn gwahodd pawb arall sy'n cefnogi egwyddorion y Maniffesto Mozilla i ymuno â ni, ac i ddod o hyd i ffyrdd newydd o wireddu'r weledigaeth hon o'r rhyngrwyd.