Gwnewch beth bynnag hoffwch chi ar-lein. D'yw
Firefox Browser ddim yn eich gwylio.
Rydyn ni'n rhwystro tracwyr hysbysebion. Rydych chi'n crwydro'r rhyngrwyd yn gynt.
Mae hysbysebion yn blino pawb ac yn gwneud i dudalennau gwe lwytho'n arafach, tra bod eu tracwyr yn gwylio pob symudiad rydych chi'n ei wneud ar-lein. Mae'r Firefox Browser yn rhwystro'r mwyafrif o dracwyr yn awtomatig, felly does dim angen i chi fynd i'ch gosodiadau diogelwch.

Mae Firefox ar gyfer pawb
Ar gael mewn dros 90 o ieithoedd, ac yn gweithio ar gyfrifiaduron Windows, Mac a Linux, mae Firefox yn gweithio ar beth bynnag rydych chi'n ei ddefnyddio neu ble rydych chi. Gwnewch yn siŵr fod eich system weithredu yn gyfredol am y profiad gorau.

Rhowch Firefox ar eich holl ddyfeisiau
Ewch â'ch preifatrwydd gyda chi i bobman. Mae gan Porwyr Firefox Browser, iOS ac Android yr un gosodiadau preifatrwydd cryf i rwystro tracwyr rhag eich dilyn o amgylch y we, lle bynnag rydych chi.

Gwneud popeth gyda Firefox

Chwiliwch yn glyfrach ac yn gynt
- Chwilio o'r bar cyfeiriad
- Dewis peiriant chwilio
- Awgrymiadau chwilio clyfar
- Nodau tudalen, hanes a thab agored o fewn canlyniadau

Cynyddwch eich gweithgaredd
- Yn gweithio gyda chynnyrch Google
- Teclyn llun sgrin mewnol
- Rheolwr nodau tudalen
- Awto gynnig URLau
- Cydweddu ar draws dyfeisiau
- Modd darllen
- Gwirio sillafu
- Pinio Tabiau

Ffrydiwch, rhannwch a chwaraewch
- Rhwystro Awtochwarae fideo a sain
- Llun-mewn-Llun
- Cynnwys wedi'i guradu ar dab newydd
- Rhannu dolenni

Diogelu eich preifatrwydd
- Rhwystro Cwcis Trydydd Parti
- Rhwystro Bysbrintwyr
- Rhwystro Cryptogloddwyr
- Modd Pori Preifat
- Adroddiad diogelu personol

Diogelu eich manylion personol
- Rhybuddion tor-gwefannau
- Rheolwr cyfrinair mewnol
- Clirio'r hanes
- Awtolanw ffurflenni
- Diweddariadau awtomatig

Cyfaddaswch eich porwr
- Themâu
- Modd tywyll
- Llyfrgell o estyniadau
- Addasu gosodiadau'r bar chwilio
- Newid cynllun tab newydd
Gwnewch eich hun yn gartrefol yn eich Firefox

-
Estyniadau ar gyfer pob diddordeb
O ddiogelwch i newyddion i gemau, mae yna estyniad ar gyfer pawb. Ychwanegwch gynifer ag y dymunwch nes bod eich porwr yn iawn i chi.
-
Newid eich edrychiad
Mynd o'r modd golau i'r modd tywyll yn dibynnu ar eich hwyliau neu'ch dewis, neu fywiogi pethau gyda thema arfer (uncorn enfys, efallai).
-
Addasu eich gosodiadau
Does dim angen bodloni. Gallwch newid y dudalen tab newydd, bar chwilio, nodau tudalen a mwy i grwydro'r rhyngrwyd yn y ffordd rydych chi ei eisiau.
Gyda chefnogaeth y corff nid-er-elw sy'n rhoi pobl yn gyntaf

Yn herio'r sefydliad er 1998
Crëwyd Firefox gan Mozilla fel dewis arall cyflymach, mwy preifat i borwyr fel Internet Explorer, a nawr Chrome. Heddiw, mae ein cwmni sy'n cael ei yrru gan genhadaeth a'n cymuned wirfoddol yn parhau i roi eich preifatrwydd o flaen pob dim.

Mae eich preifatrwydd yn flaenoriaeth.
Wrth i'r rhyngrwyd dyfu a newid, mae Firefox yn parhau i ganolbwyntio ar eich hawl i breifatrwydd - rydyn ni'n ei alw'n Addewid Data Personol: Cymerwch lai. Cadwch e'n ddiogel. Dim cyfrinachau. Mae eich data, eich gweithgaredd gwe, eich bywyd ar-lein wedi'i warchod gyda Firefox.
Cadwch eich holl hoff nodweddion porwr - a darganfod rhai newydd.

Yn gweithio gyda chynnyrch Google
Mae'ch holl hoff offer Google (fel Gmail a Docs) yn gweithio'n ddi-dor yn y porwr Firefox Browser.

Facebook Container
Llwythwch i lawr yr estyniad porwr hwn i atal Facebook (ac Instagram) rhag eich tracio o amgylch y we.

Cydweddwch eich dyfeisiau
Mae Firefox ar gael ar eich holl ddyfeisiau; ewch â'ch tabiau, eich hanes a'ch nodau tudalen gyda chi. Y cyfan sydd ei angen arnoch yw cyfrif Cyfrif Mozilla a byddwch yn cael mynediad at gydweddu a rhagor o gynnyrch Mozilla.

Lluniau Sgrin
Cipiwch ddelwedd cydraniad uchel o unrhyw beth ar-lein gyda'n teclyn llun sgrin wedi'i adeiladu o fewn y porwr

Diogelwch Uwch Rhag Tracio
Mae Firefox yn rhwystro'n awtomatig llawer o dracwyr trydydd parti rhag casglu a gwerthu eich gweithgaredd gwe.

Llun-mewn-Llun
O wylio tiwtorial gwe i gadw llygad ar eich hoff dîm, mae eich fideo yn eich dilyn wrth i chi amldasgio.